Amdanom-Ni

Wedi ei leoli ar derfyn Camlas ddarluniaidd Mynwy ac Aberhonddu yn nhref farchnad dlos Aberhonddu ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Theatr Brycheiniog yn cynnig rhaglen boblogaidd a chymeradwy o’r celfyddydau perfformio ac adloniant drwy gydol y flwyddyn.

Ymhlith cyfleusterau eraill ar safle’r theatr mae rhaglen gelfyddydau gweledol gan artistiaid o’r ardal, i’w gweld yn Oriel Andrew Lamont drwy gydol y flwyddyn, a Tipple’n’Tiffin, bistro o fri cenedlaethol.

Caiff Theatr Brycheiniog ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Aberhonddu.

Ers 2008, Theatr Brycheiniog yw’r theatr ynni solar gyntaf yng Nghymru. Caiff cyfran fechan o ofynion ynni’r theatr eu cynhyrchu gan gelloedd ffotofoltäig a osodwyd ar y to yn ddiweddar. Mae’r theatr wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o leihau ei hôl troed carbon ymhellach.

Agorodd Theatr Brycheiniog ym 1997.


Fatal error: Call to undefined function language_types_info() in /home/sites/brycheiniog.co.uk/public_html/modules/locale/locale.module on line 1021